Mae Planet – y cylchgrawn Cymreig rhyngwladol – yn dathlu ei benblwydd yn 50 yn 2020. Rydym yn gylchgrawn gwleidyddol a diwylliannol trwy gyfrwng y Saesneg, ar gael mewn rhifyn print a gwe yn chwarterol. Ein nôd yw cynnig newyddiaduraeth gydwybodol a threiddgar ynghŷd ag ysgrifennu creadigol o werth parhaol am Gymru a’r byd. Mae ein pynciau yn cynnwys materion cyfoes, newyddiaduraeth ymchwiliol, llenyddiaeth, celfyddydau, diwylliant poblogaidd, materion cyfiawnder cymdeithasol, diwylliannau lleiafrifol a ieithoedd, hanes, yr amgylchedd, adolygiadau llyfrau a mwy. I ddarganfod mwy am y rhifyn diweddaraf cliciwch yma ac i brynu copiau cliciwch yma








