Cartref digidol diwylliant Cymru.

Penglog

Stiwdio greadigol Steffan Dafydd yw Penglog sy’n bennaf yn pwysleisio ar brosiectau personol – hynny yw, gwaith heb gleientiaid. Ar hyn o bryd, mae Penglog yn cyhoeddi gludluniau, prints, darluniau, bathodynnau a crysau-t, nwyddau weird, zines a prosiectau yn cydweithio gyda artistiaid eraill.
Fe gwympodd Steffan mewn cariad gyda screenprintio wrth astudio graffeg ym Mhrifysgol Brighton. Ond ar ol graddio a cael swydd llawn amser, fe leihaodd yr oriau o fod yn greadigol i Steffan ag ar ol 3 mlynedd o beidio printio, fe benderfynnodd i ymuno a stwidio gymunedol The Printhaus yn Nhreganna. Ers gwneud hynny yn 2017, fe sefydlodd Penglog fel platfform personol a esgus da i greu a bod yn greadigol.
Ethig DIY sydd gan Penglog, gyda’r pwyslais ar greu, cydweithredu a dilyn polisi ‘fuck it, just gwna fe beth bynnag.’

Cynnwys