Elusen sy’n arbenigo ym maes y blynyddoedd cynnar yw Mudiad Meithrin. Gan fod chwarae yn sylfaenol i bob agwedd o ddatblygiad plant, mae’r profiadau a’r gweithgareddau a gynigir ar draws holl ystod ein darpariaethau wedi eu seilio ar ddysgu trwy chwarae. Mae ein darpariaethau yn cynnwys Cymraeg i Blant, Cylch Ti a Fi, Cylch Meithrin a Meithrinfeydd dydd. Rydym yn angerddol dros roi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu trwy’r Gymraeg. Trwy roi’r Gymraeg i blant ifanc Cymru, rydym yn gobeithio uno cenedl a datblygu cymuned Gymraeg amlddiwylliannol agored a llawn bywyd.



