Wedi’i sefydlu gan Kristian Evans a Zoë Brigley, mae MODRON yn ceisio cyhoeddi gwaith sydd yn trafod ac yn adlewyrchu goblygiadau a heriau newid hinsawdd a’r argyfwng ecolegol, gan egin ysgrifenwyr a rhai mwy sefydledig. Mae MODRON yn cofleidio moeseg o annedd gyda gofal, a bod yn agored i hynny sydd tu hwnt i’r dynol, gan wrthod naratif concwest ac arglwyddiaeth. Mae barddoniaeth a chelf yn rhan annatod o iechyd cymdeithas, yn darganfod iaith newydd ar gyfer profiadau newydd a dulliau newydd o fodoli. Mae newid hinsawdd a’r argyfwng ecolegol yn gorfodi trawsnewidiad ar draws pob agwedd ar brofiad dynol, ac mae beirdd a llenorion yn chwilio am y geiriau i ddisgrifio’r newidiadau hyn. Mae ffordd newydd o fodoli yn y byd nid yn unig wedi dod yn bosib, mae wedi dod yn angenrheidiol.







