Mae Mewn Cymeriad yn gwmni theatr sy’n llwyfannu sioeau am hanes Cymru.
Pan gychwynnodd y cwmni nol yn 2014, y bwriad oedd darparu sioeau rhyngweithiol, un peron, i ysgolion cynradd trwy Gymru, gan gynnig awr addysgiadol ac adloniadol. Erbyn hyn, mae gan y cwmni ystod eang o gyflwyniadau dramatig ar gyfer plant ac oedolion, oll yn canolbwyntio ar gymeriad neu stori o hanes Cymru – o gyfnod y Celtiaid i gofnodi 20 mlynedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.






