Mae Menter y Plu wedi prynu ac yn rhedeg Tafarn y Plu, Llanystumdwy fel menter gymunedol. Tafarn hanesyddol yn llawn cymeriad yw’r Plu, ac mae datblygiadau cyffrous ar y gweill i ddiogelu dyfodol y dafarn wrth gadw ei gymeriad. Yn barod, gyda chymorth y rhaglen Prosiect Pum Mil, rydym wedi llwyddo codi llwyfan wych tu allan gyda digon o le i eistedd. Mae hyn yn gyfle gwych i ni gynnal rhagor o ddigwyddiadau yn y pentref.
Rydym ni hefyd wedi prynu Capel Bach sydd drws nesaf i’r Plu a’i redeg fel llety hunanarlwyo er budd y gymuned.








