Cartref digidol diwylliant Cymru.

Meilyr Rhys

Tyfu fyny yn Ddyffryn Nantlle, mae gen i wastad wedi bod ddiddordeb mewn pobl – mae’r ffordd mae person yn ffurfio eu personoliaeth nhw yn hynod o ddiddorol i mi. A dwi’n gweld ffilm fel ffordd dda o archwilio fewn i hynna trwy adrodd straeon. Mae o hefyd yn dod ac amlygiad a chynrychiolaeth i bobl fysa heb fel arall. Rydw i’n ymgolli ym mhortreadau mewn straeon, fel Solomon Northup yn trio dianc ei gaethiwed yn 12 Years a Slave a Reynolds Woodcock yn trio dod dros farwolaeth ei fam yn Phantom Thread. Mae technegau ffilmio hefyd yn fy wngeud i’n gyffrous; o’r sinematograffi i’r sgôr cerddoriaeth, mae ffilm yn gyfuniad o bob ffurf ar gelf. Felly pan mae’r ffurfiau i gyd yn dod at ei gilydd yn berffaith, does ddim byd gwell.

Rydw i’n wneuthurwr film sydd newydd orffen astudio fy ail flwyddyn o gwrs ffilm ym Mhrifsygol Bryste.

Cynnwys