Partneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Stonewall Cymru.
Bwriad y prosiect yw cynyddu gwelededd a phresenoldeb materion LHDT ynghyd â chodi ymwybyddiaeth a chynrychiolaeth mewn rhwydweithiau a gofodau lle caiff y Gymraeg ei defnyddio, a chynhelir gweithgareddau o bob math ar hyd a lled Maes yr Eisteddfod.
Mae rhaglen Mas ar y Maes yn cynnwys trafodaethau, perfformiadau, darlleniadau a llawer mwy – o adloniant ysgafn i sgyrsiau dwys a difyr.





