Cartref digidol diwylliant Cymru.

Lois Jones

Yn wreiddiol o Dal-y-bont, Aberystwyth, mae
Lois bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel cyfrifydd. Mae
amgylcheddau gwledig wrth wraidd ei gwaith, wedi ei ysbrydoli yn bennaf gan
amgylchedd Gorllewin Cymru. Mae’r delweddau wedi’u ffurfio mewn dilyniannau a
chyfresi, fel ffordd o ddatblygu dyluniadau penodol ac arbrofi gyda’r gwahanol
liwiau a gweadau. Ar ôl mynychu cwrs nos argraffu leino yng ngholeg celf Met
Caerdydd doedd dim edrych nôl.

Cynnwys