Sefydlwyd yn 1980 yn Llanrwst. Dechreuodd drwy argraffu papurau bro a chyhoeddi dramâu i gwmnïau pentref. Llyfrau bro a hunangofiannau lleol ddaeth nesaf. Wedi cyfnod yng Nghapel Garmon, symudodd i ffatri barod yn Iard yr Orsaf, Llanrwst (LL26 0EH). Yn 2019, newidwyd yr hen beiriannau offset leitho am beiriannau digidol gan argraffu pob papur bro a phob llyfr mewn lliw llawn.