Folding Rock

Organisation Logo

Mae Folding Rock yn gylchgrawn newydd sbon danlli. Cafodd ei sefydlu yn 2024 gan ddau olygydd oedd yn benderfynol i helpu rhoi Cymru ac ysgrifennu o Gymru ar fap y Deyrnas Unedig – a thu hwnt. Mae’n cyhoeddi’r rhyddiaith greadigol newydd orau: ffuglen, ffeithiol a phopeth yn y canol. Mae’r cylchgrawn yn arddangos gwaith cyffrous gan ysgrifenwyr o bob math a pob cam o’u siwrnai greadigol. Gyda chyfuniad o gomisiynau arbennig ac ymatebion i alwad agored, mae’n dod ag enwau sefydledig ynghyd ac ysgrifenwyr newydd, ac ym mhob achos yn cyhoeddi ysgrifennu o’r ansawdd uchaf yn unig – y math y dylid ein bod ni oll yn ei ddarllen.

Cynnwys