Mae Am yn falch o lansio Tudalen; gofod digidol newydd ar ein gwefan i gyhoeddi llenyddiaeth wreiddiol o Gymru. Mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bydd Tudalen, drwy alwad agored, yn rhannu 3 darn buddugol o lên-meicro ar Ddydd Gŵyl Dewi. Cefnogir Tudalen hefyd gan Gyngor y Celfyddydau Cymru.
Rydym yn gofyn am ddarnau o lên-meicro (hyd at 500 gair) iaith Gymraeg yn ymateb i’r thema ‘Portread’, a hynny i ddathlu arddangosfa ddiweddaraf Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ‘Portread a Phŵer’. Bydd y 3 darn budduguol yn cael eu dethol gan Banel Beirniadu arbennig, ac eu cyhoeddi ar Am ar ddydd Gŵyl Dewi. Bydd yr ysgrifenwyr buddugol yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol o £100 yr un am eu gwaith.
Dywedodd Eluned Gramich, Llyfrgellydd Cynorthwyol Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac un o feirniaid Tudalen:
“Rwyf mor falch o fod yn rhan o’r gystadleuaeth wych hon i nodi lansio gofod newydd i arddangos y gorau o ysgrifennu creadigol cyfoes Cymru. Mae hefyd yn cyfuno dau o fy hoff bethau – llyfrgelloedd a llenyddiaeth. Rwy’n siŵr y bydd y thema ‘Portread’ yn sbarduno darnau newydd, dychmygus ac arloesol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddarllen ffuglen fer gyffrous newydd yn y Gymraeg.”
Dywedodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST Cyf, sydd yn rhedeg Am:
‘Un o egwyddorion sylfaenol Am yw bod yn lwyfan i leisiau newydd ac mae’n gyffrous gallu ymestyn hyn i’r byd llenyddol. Mae hi hefyd yn fraint cael partneru gyda’r Llyfrgell Genedlaethol ar y prosiect, yn enwedig gyda chartref y Llyfrgell, Aberystwyth, wedi ei dynodi yn Ddinas Llên cyntaf Cymru gan UNESCO’.
Gallwch ymgeisio am rownd gyntaf Tudalen drwy anfon eich darn i am@pyst.net erbyn Chwefror 12fed 2026. Dysgwch fwy am y gystadleuaeth yn canllawiau yma.
Am ragor o wybodaeth am Tudalen, cysylltwch gyda lea@pyst.net.