Mae’n bleser cyhoeddi taith newydd gan Lleuwen. Mae’r daith yn rhan o brosiect ar y cyd gan PYST, Mentrau Iaith Cymru a chynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru: prosiect sydd eisoes wedi gweld teithiau llwyddiannus gan HMS Morris, The Gentle Good a Gwilym Bowen Rhys Trio.
Bwriad y bartneriaeth yw ail-gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg fyw i ardaloedd gwledig Cymru ac i gynulleidfaoedd na fyddai fel arfer yn cael mynediad at gerddoriaeth fyw yn lleol. Dyma gyfle prin i glywed Lleuwen yn perfformio set o ganeuon newydd gwreiddiol (ac ambell hen glasur!) Cymraeg, cyn iddi ddychwelyd i’r stiwdio yn ddiweddarach eleni.
Bydd y daith yn gweld Lleuwen yn ymweld â 9 o leoliadau gwahanol ledled Cymru dros fis Chwefror, a mae’r tocynnau ar gael yn y ddolen isod:
https://linktr.ee/mentrauiaithpyst
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â lea@pyst.net.
Dyddiadau’r Daith
05.02: 96 Degrees, Y Bontfaen
06.02: Yr Hen Lyfrgell, Porth
07.02: Sip, Marchnad Casnewydd
13.02: Red Lions, Llanidloes
14.02: Y Fic, Llithfaen
15.02: Gwesty Owain Glyndŵr, Corwen
19.02: Caffi Beca, Efailwen
20.02: Y Porth, Llandysul 21.02: Caffi Lolfa, Porth Tywyn