Amdanom Ni
Am yw’r cyntaf o’i fath – platfform digidol ar gyfer darganfod a dathlu celfyddydau a diwylliant Cymru. Wedi’i greu gyda’r egwyddor o fod yn agored a chroesawgar i bawb, dechreuodd fel cartref i 75 o sefydliadau creadigol, sydd wedi tyfu i 460 erbyn hyn. Mae Am yn bodoli i ymgodi lleisiau creadigol o bob cefndir ac iaith, yn cynorthwyo mwy o bobl i ymgysylltu â chyfoeth ac amrywiaeth diwylliant Cymreig – boed hwy’n artistiaid, cynulleidfaoedd, neu dim ond yn chwilfrydig.
Ein stori
Wedi’i lansio ym Mawrth 2020, mae Am yn cael ei redeg gan PYST Cyf a’i ariannu gan Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Am oedd ac yw’r unig blatfform digidol yn benodol ar gyfer celfyddydau a diwylliant Cymru. Arweiniodd blwyddyn o ymchwil at lansio gwefan oedd yn wreiddiol yn gartref i 75 sefydliad creadigol, yn cynrychioli ystod eang o ffurfiau o gelf. Mae Am wedi tyfu yn gyflym dros bum mlynedd, ac erbyn 2025 mae’n gartref i 480 sefydliad diwylliannol a dros 10,000 darn o gynnwys.
Mae Am wedi dysgu, addasu ac ymateb i bopeth o Covid i doriadau ariannol i’r sector gelfyddydol, ond mae’n parhau’n ymrwymedig i’n hethos gwreiddiol o fod yn ofod democrataidd i rannu a hyrwyddo gweithgaredd diwylliannol, heb unrhyw elfen o berchnogi nag ymelwa.
Ein Gweledigaeth
Gweledigaeth Am yw galluogi i fwy o bobl nag erioed ymwneud a’r celfyddydau yng Nghymru. Drwy ymbweru pobl sy’n creu o’r newydd a’r cyhoedd rydym yn anelu i greu isadeilwaith ar gyfer Cymru gynhwysol newydd, lle mae’r celfyddydau yn yrrwr o ffyniant cymdeithasol, ieithyddol ac economaidd y dyfodol.
Ein Hamcanion
- Cynnig mynediad agored a hygyrch i’r celfyddydau i grewyr a defnyddwyr fel ei gilydd, ar lefel gymunedol a chenedlaethol.
- Creu cyfleoedd cynaliadwy, cynhwysol i rymuso pobl greadigol yng Nghymru.
- Cydweithio i greu rhwydweithiau cefnogol newydd.
- Datblygu cynulleidfaoedd newydd er mwyn ehangu ymgysylltiad â’r celfyddydau yng Nghymru.