Cartref digidol diwylliant Cymru.

Amdanom Ni

Am yw’r cyntaf o’i fath – platfform digidol ar gyfer darganfod a dathlu celfyddydau a diwylliant Cymru. Wedi’i greu gyda’r egwyddor o fod yn agored a chroesawgar i bawb, dechreuodd fel cartref i 75 o sefydliadau creadigol, sydd wedi tyfu i 480 erbyn hyn. Mae Am yn bodoli i ddyrchafu lleisiau creadigol o bob cefndir ac iaith, a hynny trwy gynorthwyo mwy o bobl i ymgysylltu â chyfoeth ac amrywiaeth diwylliant Cymru – boed hwy’n artistiaid, yn gynulleidfaoedd, neu’r rheini sydd ychydig yn chwilfrydig.

Ein stori

Wedi’i lansio ym Mawrth 2020, mae Am yn cael ei redeg gan PYST Cyf a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Cymru. Am oedd ac yw’r unig blatfform digidol yn benodol ar gyfer celfyddydau a diwylliant Cymru.

Arweiniodd flwyddyn o ymchwil at lansio gwefan oedd yn wreiddiol yn gartref i 75 sefydliad creadigol, yn cynrychioli ystod eang o wahanol fathau o gelf. Mae Am wedi tyfu yn gyflym dros bum mlynedd, ac erbyn 2025 mae’n gartref i 480 sefydliad diwylliannol a dros 10,000 darn o gynnwys.

Mae Am wedi dysgu, addasu ac ymateb i bopeth o Covid i doriadau ariannol i’r sector celfyddydol, ond mae’n parhau’n ymrwymedig i’w ethos gwreiddiol o fod yn ofod democrataidd i rannu a hyrwyddo gweithgarwch diwylliannol, heb unrhyw elfen o berchnogi nag ymelwa.

Ein Gweledigaeth

Gweledigaeth Am yw galluogi mwy o bobl nag erioed i ymwneud â’r celfyddydau yng Nghymru. Rydym yn anelu i greu isadeilwaith ar gyfer Cymru gynhwysol newydd, lle mae’r celfyddydau yn sbardun i ffyniant cymdeithasol, ieithyddol ac economaidd y dyfodol.

Ein Hamcanion

  • Cynnig mynediad agored a hygyrch i’r celfyddydau i’r rhai sy’n creu a’r defnyddwyr fel ei gilydd, a hynny ar lefel gymunedol a chenedlaethol.
  • Creu cyfleoedd cynaliadwy, cynhwysol i rymuso pobl greadigol yng Nghymru.
  • Cydweithio i greu rhwydweithiau cefnogol newydd.
  • Datblygu cynulleidfaoedd newydd er mwyn ehangu ymgysylltiad â’r celfyddydau yng Nghymru.

Cwrdd â'r tîm

Alun Llwyd portrait photo

Alun Llwyd

Prif Weithredwr PYST Cyf
Lea Glynn portrait photo

Lea Glyn

Prif Swyddog Cynnwys Am
Mari Hedd Lewis portrait photo

Mari Hedd Lewis

Prif Swyddog Marchnata Am
Owain Williams portrait photo

Owain Williams

Swyddog Cynnyrch a Phrosiectau PYST
Cerys Knighton portrait photo

Cerys Knighton

Swyddog Marchnata Am (Llawrydd)

Ymddiriedolwyr

Emily Roberts portrait photo

Emily Roberts

Cadeirydd

Rheolwr Ymgysylltu a Chymuned i M-SParc, yn gyfrifol am eu gwaith STEM a sgiliau.

Malachy Owan Edwards portrait photo

Malachy Owain Edwards

Is-Gadeirydd

Awdur a fagwyd yn Ffynnon Taf, sydd bellach yn byw yn Ynys Môn. Colofnydd i Golwg, ac yn gweithio i undeb llafur yn y sector addysg.

Nico Dafydd portrait photo

Nico Dafydd

Ymddiriedolwr

Awdur-gyfarwyddwr ac ysgogydd creadigol o Sir Benfro.

Tomos Jones portrait photo

Tomos Jones

Ymddiriedolwr

Prif swyddog Menter Iaith Abertawe ers 2021, yn gyfrifol am redeg canolfan Tŷ Tawe, a’r digwyddiad Gŵyl Tawe.

Owain Gwilym portrait photo

Owain Gwilym

Ymddiriedolwr

Cerddor, ymchwilydd a Chyfarwyddwr Gweithredol Celfyddydau Anabledd Cymru, o Sir Gâr.