Mae’n bleser gan AM gyhoeddi un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol hyd yma yn hanes byr y wefan a’r app. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi cael ein hysbrydoli a’n rhyfeddu gan y gweithgaredd llawr gwlad cydweithredol a chymunedol sydd yn asgwrn cefn i unrhyw ecosystem ddiwylliannol a chymdeithasol, ac mae’n fraint cael cyhoeddi adran newydd ar AM fydd yn rhannu a dathlu y gweithgaredd hwn.
Bydd yr adran ‘Cymunedau’ yn adran benodol o fewn AM yn cynnwys amrywiaeth eang o sianelau newydd, â’n nod yw mai cychwyn siwrnai yw hon: un â fydd yn arbrofi ac ymchwilio i holi sut y gall cyfrwng digidol fod o gymorth i dŵf gweithgaredd cymunedol ‘o’r gwraidd i fyny’, sydd yn gorfod addasu i heriau cyfnod newydd yn dilyn dwy flynedd o Covid-19. Bydd yr adran yn gyfle i hyrwyddo gweithgaredd, i bontio cymunedau gyda’i gilydd ac hefyd i edrych ar sut y gall cyfrwng digidol hygyrch ysbrydoli ac annog cyfranogi pellach to weithgaredd cymunedol.
Yn ol Alun Llwyd, Prif Weithredwr AM “Credwn bod diwylliant cymunedol wedi ei greu â’i berchenogi gan y gymuned yn greiddiol a hanfodol i lesiant pawb a phob dim. Mae gallu partneru o’r gwraidd i fyny i greu a rhannu gyda rhai o’r cyrff arloesol yma yn fraint aruthrol”
Ychwanegodd Meleri Davies o Bartneriaeth Ogwen “Mae mentrau cymunedol yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobol ar draws Cymru. O weithredu amgylcheddol i ddatblygu’r economi leol, mae’n dylanwad yn sylweddol ond prin yw’r sylw a roddir i hyn yn y wasg genedlaethol. Mae’n braf felly gweld AM yn neilltuo adran benodol i gymunedau ar eu gwefan. Mae’n gofnod o’n gweithgarwch ni ond mae o hefyd yn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd ein gwaith a phwysigrwydd cymuned i fywydau pobol Cymru.”
Bydd yr adran ‘Cymunedau’ yn cynnwys ystod eang o weithgaredd: o waith arloesol mentrau cydweithredol economaidd megis Cwmni Bro Ffestiniog, Antur Waunfawr, Together for Change Sir Benfro a Phartneriaeth Ogwen, adeiladau cymunedol megis Yr Orsaf a Chanolfan Soar, tafarnau cydweithredol fel Saith Seren Wrecsam a Thafarn y Fic Llithfaen, gweithgaredd perfformio lleol fel Theatr Gydweithredol Troed y Rhiw a mentrau egni ac amgylcheddol megis GwyrddNi ac Ynni Cymunedol Cymru i enwi dim ond thai. Mae croeso i unrhyw gorff neu fenter arall sydd yn teimlo yr hoffent gael presenoldeb yn yr adran i gysylltu ac AM i drefnu hynny. Hyderwn y bydd yr adran yn tyfu yn gyflym.
Yn ôl Lowri Jones o Theatr Gydweithredol Troed y Rhiw, Ceredigion “Mae’n adeg pwysig i’n cymdogaethau wrth i ni geisio ailgydio mewn gweithgarwch diwylliannol. Edrychwn ymlaen at gydweithio gydag AM i fanteisio ar ein cyfryngau – theatr a llwyfannau digidol – i ledu gweithgarwch creadigol cymdogaethau’r gorllewin.”
Dywedodd Lisbeth McLean o Ganolfan a Theatr Soar, Merthyr Tydfil – “Un o’r pethau mwyaf dyn ni wedi dysgu yng Nghanolfan Soar dros y cyfnod yma yw faint mae’r gallu i gwrdd â chymdeithasu yn meddwl i’n cymuned. Mae ‘na deimlad o werthfawrogiad newydd a chariad yn yr adeilad ers i ni agor lan eto. Mae’r gwasanaeth dyn ni’n cynnig i’n cymuned wrth wraidd ei gwellhad. Mae’n fraint bod yn rhan o rwydwaith o sefydliadau sy’n gwneud gwahaniaeth ar draws Cymru. Cyfle arbennig i rannu gwybodaeth a phrofiad a magu partneriaethau newydd”
Ychwanegodd Christopher Evans o dafarn y Saith Seren, Wrecsam – ‘Y gymuned yn Wrecsam yw asgwrn cefn Saith Seren ac mae’n gyffrous medru bod yn rhan o gymuned ddigidol genedlaethol newydd drwy AM a’r adran ‘Cymunedau’!’
Am rai dyddiau o Ebrill 13eg ymlaen bydd yr adran ‘Cymunedau’ yn meddiannu tudalen flaen AM gyda llwyth o gynnwys newydd a sianelau newydd a hyderwn y bydd hyn yn help i rannu eu gwaith hollbwysig ac hefyd i ysbrydoli eraill.
Am wybodaeth bellach: mari@pyst.net