Cartref digidol diwylliant Cymru.

Tocynnau/Tickets: How To Be Well In A World That Is Sick? | Sut i Fod Yn Iach Mewn Byd Sydd Yn Sâl?

Sut I Fod Yn Iach Mewn Byd Sydd Yn Sâl?

Gwaith wedi’i ddyfeisio, ysgrifennu, cyfarwyddo a perfformio gan Bethan Dear
Cerddoriaeth wreiddiol gan Gwilym Morus Baird
Ffilm prosiect gan Heledd Wyn

Dydd Iau 28 Ebrill am 2:30pm

TOCYNNAU AR GAEL NAWR: YMA


Rhybudd:
Gall peth o gynnwys y sioe hon achosi tramgwydd neu ofid. Byddwch yn ymwybodol y ceir cyfeiriadau at drais rhywiol a theuluol, iselder, ôl-fflachiau, hunanladdiad, PTSD, trawma, a phroblemau iechyd meddyliol eraill. Pe hoffech gael gwybodaeth fwy penodol, mae croeso i chi gysylltu â ni a gofyn.

Os oes angen rhagor o gefnogaeth arnoch mewn cysylltiad ag unrhyw un o’r materion hyn, ceir cymorth a gwybodaeth ddefnyddiol yn y llefydd canlynol:-


www.newpathways.org.uk
neu dros y ffôn ar 01685 379 310

www.westwalesdas.org.uk

Llinel Gymorth Argyfwng 24 Awr 01970 625585 or 01239 615385
Llinell Gymorth Live Fear am ddim 0808 8010 800

www.samaritans.org
neu dros y ffôn ar 08457 90 90 90

www.mentalhealth.org.uk


www.aber.ac.uk/en/student-support

Cymdeithas Orllewinol. Peiriant-defnyddwyr patriarchaidd, cyfalafol sydd ag obsesiwn gyda delweddau.
Trais rhywiol yn seiliedig ar rywedd. Salwch hollgynhwysol. Epidemig byd-eang.

Sut gallwn fod yn iach, pan mae’r cyflyru tros-ddiwylliant wedi ymdreiddio i mewn i’n croen?
Sut gallwn wella pan mae’n safonau cymdeithasol yn mynd yn erbyn yr hyn ‘rydym i gyd ei wir angen?

Lle gallwn fynd â’n poen, ein galar, ein trawma, ein dicter?
Lle gallwn siarad, wylo, gweiddi, galaru, cael ein clywed, a’n dal a’n dilysu?

Pur, prydferth, dwys, gobeithiol a beiddgar; mae Bethan yn rhannu ei stori.
Yn tynnu ar ei phrofiadau byw ei hun o geisio gwella trawma dwys.

Mae hi’n cyfuno tafluniad ffilm, symudiad, clown a’r gair ar lafar.
Yn archwilio effeithiau tymor hir trais rhywiol a theuluol.

Stori am syrthio i lawr, yn ddwfn i’r tywyllwch.
Am fynd ar goll, yn sownd ac yn gaeth, yn y gorffennol.

Stori am godi i fyny eto, a dod o hyd i’r goleuni.
Am ddechrau eto. Ac eto. Llawer. O. Weithiau.

CYFARWYDDYD OEDRAN: 18+ gan fod y sioe yn cynnwys noethni blaen llwyr, iaith anweddus a chyfeiriadau at drais a phroblemau iechyd meddyliol.

AMSER RHEDEG: 1 awr 45 munud – dim egwyl

RHANNWCH