Cartref digidol diwylliant Cymru.

Chwerwfelys gan Rebecca Roberts

Llenyddiaeth

Mae breuddwyd Alys wedi cael ei gwireddu – mae hi a Duncan mewn perthynas ac mae hi’n brif gogydd ym mwyty’r Fleur-de-Lis.

Ond tydi bywyd ddim yn fel i gyd…mae Lydia cyn-wraig drafferthus a sbeitlyd Duncan, yn dal i achosi helynt, a phan aiff Duncan i weithio dramor, mae’n rhaid i Alys a’i dirprwy, John, ymdopi hebddo. All y ddau oroesi colled, salwch, dyled a thwyll i gadw drysau’r bwyta yn agored?

Dyma ddilyniant i’r nofel boblogaidd, Mudferwi.

Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.  

RHANNWCH