Mae TIWN yn dri unigolyn gydag un nod cyffredin, sef i floeddio am y wledd anhygoel o dalent gerddorol ac artistig yma yng Nghymru – a chroesi dros ffiniau daearyddol ac ieithyddol i hyrwyddo’r dalent yma drwy sioeau radio rhyngwladol, podlediadau, cylchgronau, digwyddiadau byw a theledu, yn aml yn gweithio mewn partneriaeth gydag unigolion a sefydliadau gyda’r un egwyddorion. TIWN yw Kaysha Louvain, Craig Mapstone a Michael Kennedy – cymysgedd od, ar yr olwg gyntaf, o gerddor, cyflwynydd ac awdur sydd rhywsut wedi dod at ei gilydd i greu’r hwb arloesol a chreadigol mae TIWN yn ei gynrychioli.
