Ymhen ychydig ddyddiau, mi fydd uwchgynhadledd Newid Hinsawdd COP26 yn agor yn Glasgow. Y nod ydi pennu llwybr fydd yn arwain at allyriadau carbon net sero erbyn 2050, a hynny’n fyd-eang. Yn ôl adroddiad World Energy Outlook 2021 yr International Energy Agency, sydd newydd ei gyhoeddi, mae hyn yn gwbl bosib: nid yn unig gwyddom sut i fynd o’i chwmpas hi, tydi’r gost ychwaith ddim tu hwnt i’n cyrraedd. Ond i ba raddau fydd cysgodion yr argyfwng ynni cyfredol – y shortage economy – yn tywyllu neuaddau’r gynhadledd?
Mae’r cwestiwn yn tanlinellu un o’r anawsterau dwys ynghlych ein hymateb i her yr arygfwng hinsawdd; sef y tensiwn rhwng galwadau dilys y presennol (‘events, my boy’, i ddyfynnu Harold Macmillan ers llawer dydd) a gweithredu’r polisïau a’r newidiadau cwbl angenrheidiol er mwyn osgoi cynhesu byd-eang tra pheryglus. Rhaid pwysleisio drwodd a thro yr angen i gwtogi allyriadau carbon ein planed ar fyrder – ar gyfradd o 10% y flwyddyn am weddill y degawd hwn, ac wedyn parhau i gwtogi – os am obaith o osgoi cynnydd o dros 1.5 gradd Celsius yn nhymheredd cyfartalog y byd. Ofnaf y bydd ein harweinwyr, yn sgil yr argyfwng presennol ym mhris nwy a thrydan, yn fwy cyndyn byth i weithredu ar unwaith ac â’r brwdfrydedd sy’n ofynnol yn yr uwchgynhadledd hanfodol hon. Mi fydd yn demtasiwn idlio i’r pryder cyfarwydd fod ‘ein gwlad ni’ am golli allan, ac i’r peryg gwirioneddol o weld y ‘goleuadau’n diffodd’ o ganlyniad i ansefydlogrwydd cyflenwadau ynni, fyddai â goblygiadau difrifol i unrhyw lywodraeth. Dyma’r tyndra rhwng amserlen y blaenoriaethau gwleidyddol ac amserlen gofynion ffiseg ein hatmosffer.
Yn gynyddol yn ail hanner yr 20g mae’r mwyafrif ohonom yn y gorllewin wedi arfer â chael pethau’n syth bin, boed yn fwyd parod, yn drugareddau di-angen, yn ddillad newydd, yn ddiddanwch, yn wybodaeth … rydym yn cael ein tormentio’n barhaus gan gynigion y mae ‘rhaid manteisio’ arnynt ar unwaith; rydym wedi colli’r arfer o bwyllo ac aros i gynilo cyn prynu, ac ati. Ydi cynnal ein safon byw cyfredol yn gyfystyr â throsedd, yn eich barn chi?
Cyfystyr â throsedd? Ydan ni, bob un, yn droseddwyr hinsawdd? Rwy’n amheus fod gosodiad mor garlamus yn gymorth i ddatrys ein problemau. Rydym un ac oll, ym mhob cenhedlaeth, yn blant ein hetifeddiaeth, ac i raddau yn gaeth iddi. Y cwestiwn gwaelodol yw: a yw’r drefn economaidd sydd wedi datblygu dros y canrifoedd, yn arbennig oddi ar y Chwyldro Diwydiannol a goruchafiaeth cyfalafiaeth, yn abl i ymateb i argyfwng cynhesu byd-eang, ac i lywio ein byd drwy’r her unigryw hon. Rhaid sylweddoli i lwyddiant y drefn bresennol, yn hanesyddol ac yn wir hyd heddiw, ddibynnu ar ynni rhad o losgi tanwydd ffosil (sef prif achos ein cyfyngder yn y lle cyntaf). Felly, mae yna dyndra sylfaenol amlwg. Oddi mewn i’r drefn gyfredol, rwy’n amheus bod modd osgoi cynnydd ymhell dros 2 radd Celsius yn nghyfartaledd tymheredd yr atmosffer, am y rhesymau a drafodir gen i mewn erthygl ddiweddar yn Saesneg.
Er bod unigolion yn ceisio ymryddhau o hualau’r drefn hon, mae’r rhan fwyaf o bobl yn gaeth iddi, yn enwedig y tlawd, sy’n dal i obeithio mewn nifer o rannau o’r byd y bydd y drefn bresennol yn eu gwaredu rhag tlodi. Wrth gwrs, mae dyletswydd ar bob un ohonom i wneud ein gorau glas i ymateb a lleihau ein ôl troed unigol a theuluol, ac yn wir mae’r dyletswydd drymaf ar y rhai ohonom sy’n ddigon cyffyrddus ein byd i wneud hynny. Mae’n hanfodol fod pawb hefyd yn pwyso ar ein llywodraethau i weithredu.
Mater arall yw cyfrifoldebau ac euogrwydd unigolion, megis cyfarwyddwyr Exxon, sy’n gwybod y ffeithiau ffisegol ond yn taenu anwireddau neu yn wfftio’r ffeithiau er budd elw personol, ac yn yr un modd yr arweinwyr hynny sy’n hybu eu gyrfaoedd unigol trwy gyfrwng celwyddau am ffeithiau newid hinsawdd. Synnwn i ddim fod gan Dante le neilltuol yn uffern i unigolion fel hyn. Y grwpiau peryglus eraill yw’r rhai sy’n ymwybodol o’r problemau ond mor ddwfn eu hymlyniad at gyfalafiaeth fel eu bod yn chwilio am esgusodion i osgoi gweithredu ac yn arbenigo mewn ‘Bla-bla’, fel y dywed Greta Thunberg. Does dim dwywaith na fydd pob gwladwriaeth yn COP26 Glasgow yn brysur yn ceisio gwarchod ei blaenoriaethau: cig neu nwy neu olew neu lo neu deithio awyr neu gario nwyddau ar y môr – neu yn achos gwledydd ynysoedd y Môr Tawel, ddyfodol eu gwladwriaeth. Gobeithio y cawn weld y ddynoliaeth yn cyd-dynnu yr wythnos nesaf, ond nid yw’r rhagolygon yn dda.
Darllenwch y cyfweliad yn llawn, am ddim, ar wefan pedwargwynt.cymru.