Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cyhoeddi Silff Lyfrau’r Gyfnewidfa ar gyfer 2021-22

Llenyddiaeth

Yn ôl ein harfer, cyhoeddwyd y Silff Lyfrau yn Ffair Lyfrau Frankfurt. Y Silff Lyfrau yw prif ffocws ein presenoldeb mewn ffeiriau llyfrau, pan fydd aelodau o’n tîm yn cyfarfod â chyhoeddwyr i hyrwyddo’r llyfrau a’r awduron a detholwyd i’r Silff, ynghyd â’n Cronfa Grantiau Cyfieithu, sydd ar gael i gyhoeddwyr i gefnogi’r costau cyfieithu wrth gyhoeddi llenyddiaeth o Gymru.

Eleni, detholwyd deunaw cyfrol i’r Silff Lyfrau, pob un yn fyd ynddo’i hun.

Mynd – Marged Tudur (Gwasg Carreg Gwalch)
Y wraig ar lan yr afon – Aled Jones Williams (Gwasg Carreg Gwalch)
Llechi – Manon Steffan Ros (y Lolfa)
Twll Bach yn y Niwl – Llio Maddocks (y Lolfa)
Y Castell Siwgr – Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch)
tu ôl i’r awyr – Megan Angharad Hunter (y Lolfa)
Cyfrinachau – Eluned Phillips (Honno)
Ymbapuroli – Angharad Price (Gwasg Carreg Gwalch)
Lloerganiadau – Fflur Dafydd (y Lolfa)
Still – Christopher Meredith (Seren)
Inhale / Exile – Abeer Ameer (Seren)
The Gododdin – Gillian Clarke (Faber & Faber)
Flowers of War – Llŷr Gwyn Lewis, translated by Katie Gramich (Parthian)
Please – Christopher Meredith (Seren)
Angels of Cairo – Gary Raymond (Parthian)
Easy Meat  – Rachel Trezise (Parthian)
Many Rivers to Cross – Dylan Moore (Three Impostors)
Heavy Light: A Journey Through Madness, Mania and Healing – Horatio Clare (Chatto & Windus)


Bydd pob un cyfrol yn cael ei hyrwyddo gan Gyfnewidfa Lên Cymru yn ystod ein gweithgareddau rhyngwladol yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, gan gynnwys ein gweithgareddau mewn ffeiriau llyfrau, gwyliau llenyddol a chyfarfodydd gyda chyhoeddwyr.

RHANNWCH