Mae The Bunkhouse yn far, lleoliad cerddorol a gofod cymunedol llwyddiannus sydd wedi’i leoli yn strydoedd cefn canol dref Abertawe, sydd yn rhoi platfform i egin artistiaid lleol a bandiau mwy sydd yn teithio.
Sefydlwyd The Bunkhouse yn 2017 gan griw o ffans cerddoriaeth a misfits yn ochr anghywir eu 20au, a datblygodd i fod yn un o brif leoliadau cerddorol De Cymru, yn leoliad bach sydd yn cyflawni pethau mawr.
Mae gan The Bunkhouse ddau lwyfan, un ym mar Park Street yn y fynedfa, llwyfan llai sydd yn cynnal nosweithiau jazz, comedi, barddoniaeth, aciwstig, DJs ayyb. Mae’n berffaith ar gyfer nosweithiau ymlaciol a chynnal partion ar ôl gigs. Y llall yw ein prif lwyfan, The Kingsway bar sydd yn leoliad cerddoriaeth byw sydd yn gartref i fandiau sydd yn teithio a DJs frhyngwladol, ac yn ganolfan pwysig ar gyfer bandiau lleol.
