Tocynnau penwythnos wedi gwerthu!
£20 tocyn ar-lein ar gyfer dydd Sadwrn, prynwch nhw yma
Mae’n bleser gennym gyhoeddi rhaglen arbennig ar gyfer Gŵyl Gerallt eleni. Mi fydd yn ŵyl dra gwahanol oherwydd COVID-19 ond mi fydd yn hyfryd cael dod at ein gilydd unwaith eto.
Byddwn yn dechrau’r penwythnos ar nos Wener, Hydref 1af gyda Thalwrn y Beirdd yn Neuadd y Pentref, Llanystumdwy a byddwn yn gorffen y penwythnos gyda thaith gerdded lenyddol gyda’r Prifardd Twm Morys ar fore Sul, Hydref 3ydd. Bydd y daith yn un hamddenol ac yn addas i gŵn, ond ni fydd yn addas ar gyfer pram plant bach oherwydd natur y llwybrau.
Bydd gwledd o ddigwyddiadau ar eich cyfer ar y dydd Sadwrn hefyd – lansiad llyfr newydd sbon, trafodaethau, gweithdai, a mwy – a bydd modd gwylio’r rhain i gyd ar-lein am ddim ond £20 i bob tŷ – bargen!
Hefyd dros y penwythnos yn Nhŷ Newydd, bydd dangosiad o ffilmiau byrion gan artistiaid a beirdd sy’n arbrofi ac yn cyflwyno barddoniaeth mewn ffyrdd newydd, gweledol. Bydd cerflun newydd gan Manon Awst i’w weld allan yn yr ardd yn Nhŷ Newydd ac mi fydd Manon yno i sgwrsio am ei gwaith yn ystod yr ŵyl.
Edrychwn ymlaen yn arw at eich cwmni!
I archebu tocyn arlein, cliciwch YMA.
*Digwyddiad mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru a Cyngor Llyfrau Cymru.