Llechi
Manon Steffan Ros
Mae Gwenno wedi cael ei lladd. Gwenno berffaith, glyfar, brydferth – hi oedd yn boblogaidd efo’r swots a’r bobol cŵl. Bellach mae’r heddlu dros bob man ym Methesda. Ond does ganddyn nhw fawr o obaith, dim â hwythau’n gwybod y nesaf peth i ddim am sut ferch oedd hi go iawn.
Pobol fel Ni
Cynan Llwyd
Mae digwyddiadau’r nofel yn para dros gyfnod o tua 24 awr mewn dinas yng Nghymru yn y dyfodol agos. Mae’n dilyn dau gariad, Nathan a Sadia, wrth iddyn nhw fynychu gìg. Yn ystod y gìg mae ffrwydriad ac mae’r ddau’n cael eu gwahanu.
Byw yn fy Nghroen – Profiadau Pobl Ifanc Sy’n Dioddef yn Dawel
Gol. Sioned Erin Hughes
Profiadau 12 o bobl ifanc sydd wedi byw gyda salwch a chyflyrau hir dymor. Mae’r cyfranwyr yn trafod iechyd meddwl, cancr, epilepsi, clefyd Crohn’s, spina bifida, nam ar y golwg, OCD, iselder a gor-bryder. Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2020.
#helynt
Rebecca Roberts
Mae colli’r bws i’r ysgol yn gallu newid dy fywyd di … Penderfyna Rachel fynd ar antur yn nhre’r Rhyl yn hytrach na mynd adref (wedi’r cyfan, mae’r beili wedi mynd â char ei thad), gan ganfod ei hun mewn clwb nos ar lan y môr. Enillydd Gwobr Tir na n-Og a chategori Plant a Pobl Ifanc Llyfr y Flwyddyn 2021.
tu ôl i’r awyr
Megan Angharad Hunter
Taith dau gymeriad yn eu harddegau hwyr, Deian ac Anest, a’u perthynas ryfeddol drwy angst eu bywydau. Dyma nofel fydd yn gwneud i chi chwerthin yn uchel, crio, a synnu at ddawn anhygoel Megan Hunter i dreiddio’n ddwfn i feddyliau dau gymeriad a fydd yn aros yn y cof am amser hir. Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2021.
Dweud y Drefn pan nad oes Trefn: Blodeugerdd 2020
gol. Grug Muse a Iestyn Tyne
Cant o gerddi gan feirdd Cymru a thu hwnt. Rhoddwyd gwahoddiad agored i unrhyw un a oedd wedi ysgrifennu yr hyn a elwir yn ‘farddoniaeth’, rywdro rhwng 2015 a 2020, i anfon eu cerddi, a detholiad Grug ac Iestyn sydd rhwng y cloriau.
Adref – Casgliad o Straeon Byrion
Amrywiol
30 stori fer gan ferched, yn dilyn cystadleuaeth sgwennu stori fer yng nghylchgrawn Cara. Mae’r gyfrol yn cynnwys straeon gan awduron profiadol fel Heiddwen Tomos, Casia Wiliam a Rebecca Roberts, ac awduron newydd, ifanc fel Fflur Evans, Marged Wiliam, Martha Grug Ifan, Sioned Erin Hughes, a llawer mwy.
Mae’r llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.
Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol YMA.