Cartref digidol diwylliant Cymru.

Adolygiad Robyn: Iestyn Tyne gyda Leo Drayton

Llenyddiaeth

Robyn yw’r bedwaredd nofel yng nghyfres Y Pump – sef cyfres o nofelau i bobl ifanc am bump ffrind ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llwyd. Mae’n gyfres bwysig am ei bod yn mynd i’r afael â phrofiadau arddegwyr sy’n perthyn i groestoriadau cymdeithasol y mae eu lleisiau yn aml wedi eu heithrio neu eu hesgeuluso gan lenyddiaeth Gymraeg a chan gymdeithas yn gyffredinol. Daeth y campweithiau hyn ynghyd trwy gydweithrediad pum awdur â phum cyd-awdur ifanc a ddarparodd fewnbwn gwerthfawr ynghylch eu profiadau wrth i’r nofelau gael eu hysgrifennu.

Mae’r nofel Robyn – yng ngeiriau Leo Drayton, ei chyd-awdur – yn ‘rhoi mewnwelediad ar sut brofiad yw hi i gwestiynu eich rhywedd neu’ch hunaniaeth’. Mae stori cymeriad Robyn yn gwneud hyn mewn modd sy’n hygyrch i bob darllenydd, ac yn gwbl gredadwy. Er enghraifft:

‘Dwi’n gorfod tynnu siôl fi off i ddod fewn i’r exams, a ma hynna ’di bod yn rhoi fi on edge tbh. Fatha mod i’n noeth, fel yn y freuddwyd ’na dwi’n ca’l weithia lle dwi’n deffro yn ista ar y bỳs ar y ffordd i’r ysgol a rywsut dwi ’di llwyddo i adael y tŷ ac anghofio gwisgo nillad. A ma pawb yn chwerthin a pwyntio a dwi’n methu neud dim byd achos y breichia a’r coesa – dim breichia a coesa fi ydyn nhw. A dwi jyst yn ista yna nes i fi ddeffro go iawn.’

Yn ogystal â dilyn profiad ingol Robyn mae’r nofel hefyd yn gofnod pwysig o’r profiad o dyfu i fyny yn y Gymru gyfoes fel aelod o Generation Z, a’r hyn sy’n llywio bydolwg pobl ifanc heddiw. Mae materion yn ymwneud â’r argyfwng newid hinsawdd a chanfyddiad pobl o’r hyn yw gwrywdod yn cael sylw, ac mae’n ddiddorol gweld Robyn yn cwestiynu adeileddau cymdeithasol megis dosbarth a phatriarchaeth wrth gwestiynu ei rhywedd. Yn ogystal, credaf fod yr iaith a’r arddull sy’n cael eu defnyddio yn y nofel yn ychwanegu at ddiffuantrwydd llais Robyn.

I mi, yr hyn sy’n arbennig am y nofel yw’r cyffyrddiadau teimladwy a gawn drwy’r cyfeillgarwch rhwng Robyn a’r pump arall a thrwy’r cymodi rhwng Robyn â’i brawd anwadal, Aiden. Mae’r ystod o emosiynau sydd yn llif meddyliau Robyn hefyd wedi eu cyfleu mewn modd cofiadwy a sensitif, gan gyrraedd uchafbwynt yng ngonestrwydd trawiadol y diweddglo lle mae Robyn yn darllen ei cherdd mewn noson open mic LGBTQ+ ac yn cofleidio ei hunaniaeth ryweddol newydd:

‘Dyma fi. Yr un un, ond yn wahanol.
A dyna’r oll.’

Credaf fod y nofel hon yn gam arwyddocaol tuag at geisio gwella dealltwriaeth a chanfyddiad pobl ifanc o’u cyfoedion o fewn y gymuned traws. Gobeithiaf y bydd y nofel hon a gweddill y gyfres yn ysbrydoli awduron eraill i sicrhau bod nofelau Cymraeg yn adlewyrchu’r ystod o brofiadau sydd gan bobl yn ein cymdeithas.

RHANNWCH