“Dwi’n gwbod bo’ Cat yn colli fwy neu lai’r un faint o ysgol
â fi ond dyw e ddim fel tase fe’n boddran hi gymaint.
Mae hi jyst wastad mor hapus a sai’n gwbod shwt mae hi’n neud e.”
Mae hi’n noswaith braf yng Ngheinewydd. Cynnes. Llonydd. A dwi a fy chwaer yn gollwng ein cyrff yn araf bach i mewn i oerni’r môr, o’r diwedd. Mae bod yn y môr yn neud i fi deimlo’n fyw. Ni ‘di nofio mas yn bell y tro ‘ma, fel nad yw ein traed yn gallu cyffwrdd â’r cerrig gwymonllyd oddi tano rhagor.
Alla i ddychmygu sut dwi’n edrych ar hyn o bryd. Yn wyneb bach ofnus ar gynfas glas, yn trio’i orau i beidio â boddi. Dwi’n cicio fy nghoesau mor gyflym â phosib i drio cadw fy mhen uwchben y dŵr. Dwi’n gwylio fy chwaer yn arnofio’n rhwydd fel bwi wrth fy ochr.
“Shwt ti’n neud ‘na?”
“Neud be?”
“Arnofio fel ‘na. Ti’n edrych mor smooth.”
“Cico coese fi.”
Ond dyna be dwi’n neud hefyd. Felly pam dwi’n cael cymaint o drafferth i stopio fy hunan rhag boddi tra bo fy chwaer yn osgeiddig reit? Dwi’n bendant ddim yn edrych fel ‘na.
Neu ydw i?
Ydw i’n edrych fel mod i’n arnofio’n rhwydd heb arwydd mod i’n stryffaglu dan arwyneb y dŵr? Falle mod i’n edrych fel mod i’n gwybod yn iawn be dwi’n neud i bawb arall.
A dyna’n union sut beth yw salwch meddwl. Dyw e ddim bob amser yn weladwy i’r llygad, sdim ots faint mae rhywun yn brwydro yn ei erbyn e dan y wyneb.
Mae gyda ni’r ddawn ‘ma i’w guddio fe er ei fod e’n aros yn sownd wrth ein hochr ble bynnag y byddwn ni’n mynd.