Yn y man cyfarfod rhwng dwy linell drên, daw dau fywyd ynghyd yn yr ail gasgliad hwn o gerddi gan Llŷr Gwyn Lewis. Wedi’u cyhoeddi yn ystod cyfnod y clo, mae’r cerddi tawel rymus hyn yn myfyrio ar y cyflwr dynol wrth i’r awdur archwilio’r berthynas rhwng dyn ifanc a’i bartner wrth iddi esblygu a dyfnhau, ac wrth iddynt brofi genedigaeth eu mab a’r newidiadau dramatig a ddaw yn sgil hynny.
Wrth blethu cyfres o drosiadau estynedig ynghyd, mae’r bardd yn myfyrio ar feicrocosm y teulu ac ar ei etifeddiaeth deuluol a diwylliannol ef ei hun – yn ogystal â’r hyn a draddodir i’w fab. Mae crefft ei gyndeidiau yn y chwareli wrth drin y llechen â llaw ac offer syml bellach wedi’i disodli gan fyd yr allweddell a’r cyfrifiadur wrth drin geiriau.
Daw tadolaeth i’w ran yn yr un cyfnod â phrofedigaeth yn y teulu, a’r bardd drwy hynny’n ystyried dyfodol pan fydd raid i’w fab ddilyn ei lwybr ei hun ac wynebu byd heriol newydd heb ei rieni.
Wedi’u priodi’n berffaith â dyluniadau monocrom trawiadol Dafydd Owain, mae’r cerddi myfyrgar hyn, sy’n llawn cariad, doethineb, a gonestrwydd yn fwy na dim, yn cipio’ch anadl ar y darlleniad cyntaf ond yn datgelu’u dyfnder wrth ailymweld â hwy. Dyma gadarnhau statws y bardd fel un o awduron ifanc mwyaf nodedig Cymru.
Cyfrol ryddiaith ddiweddaraf LLŶR GWYN LEWIS yw ei gasgliad o straeon, Fabula (Y Lolfa, 2017), ac enillodd y Stôl Ryddiaith yng Ngŵyl Amgen yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2020. Mae hefyd yn fardd sy’n aelod o dîm Talwrn y Ffoaduriaid a chriw Bragdy’r Beirdd, a chyhoeddodd bamffled o gerddi, rhwng dwy lein drên, ym Mehefin 2020. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda Lowri a’u mab Math.