Robyn
“Dyma fi. Yr un un, ond yn wahanol.
A dyna’r oll.”
Mae Robyn ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llwyd, ac ar fin cychwyn ar daith i ddod i adnabod ei hunan go iawn. Ond a fydd pawb ym mywyd Robyn yn fodlon ymuno yn y daith?
Dyma bedwaredd nofel Y Pump – cyfres o bum nofel am bum ffrind gan bump awdur a phum chyd-awdur ifanc.
Rhybudd cynnwys: Yn ogystal â themâu ac iaith gref a all beri gofid i rai, ceir cyfeiriadau at orbryder a dysfforia rhywedd yn y nofel hon.
Iestyn Tyne
Daw Iestyn Tyne o Lŷn yn wreiddiol, ond mae bellach yn byw yng Nghaernarfon. Mae’n un o olygyddion Cyhoeddiadau’r Stamp, ac mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth. Dyma’i nofel gyntaf.
Leo Drayton
Mae Leo yn fachgen traws o Gaerdydd. Ar ôl gadael Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf aeth i wirfoddoli yng Nghambodia cyn mynd i’r brifysgol. Dyma’r nofel gyntaf iddo weithio arni ac mae’n hoff o ysgrifennu barddoniaeth.