Cartref digidol diwylliant Cymru.

‘Darllen y Dychymyg’, Siwan M. Rosser (Gwasg Prifysgol Cymru)

Llenyddiaeth

Erbyn hyn, mae llyfrau i blant ymhlith gwerthwyr gorau’r diwydiant cyhoeddi ac yn rhan ganolog o addysg pob plentyn yng Nghymru. Ond prin yw’r sylw beirniadol a gafodd hanes a datblygiad llenyddiaeth plant yn y Gymraeg. Mae’r gyfrol hon yn mynd i’r afael â’r tawelwch hwnnw ynghylch llenyddiaeth plant yn ein hanes cenedlaethol, gan ddadlau dros ei harwyddocâd cymdeithasol a diwylliannol. Trwy fanylu ar ddechreuadau llyfrau a chylchgronau i blant yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dengys y gyfrol hon fod llenyddiaeth plant yn hanfodol bwysig er mwyn deall sut mae syniadau ac agweddau yn cael eu trosglwyddo a’u trawsffurfio. Ymdrinnir yn bennaf ag agweddau tuag at blant a phlentyndod, gan olrhain y modd yr esblygodd y cysyniadau hynny o dan bwysau trawsnewidiadau economaidd a diwylliannol yr oes. Yng ngoleuni cysyniadau beirniadol Pierre Bourdieu a Michel de Certeau, archwilir y ffactorau fu’n cyflyru awduron i ysgrifennu ar gyfer plant ac yn ffurfio eu hagweddau tuag at ddarllenwyr ifainc, a thrwy hynny gosodir sylfaen ar gyfer astudio llenyddiaeth plant yn y Gymraeg.

Mae SIWAN M. ROSSER yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Ei phrif faes ymchwil yw Llenyddiaeth Gymraeg i blant a phobl ifainc.

RHANNWCH