Cartref digidol diwylliant Cymru.

Sywel Nyw ft. Lauren Connelly – ‘10/10’ – Adolygiad

Cerddoriaeth

Rhyddhawyd rhandaliad mis Mehefin o ymgais Sywel Nyw i ryddhau trac newydd bob mis eleni, gyda Lauren Connelly fel gydweithredwr diweddaraf y prosiect. Mae brawddeg agoriadol y gân yn nodi “Dwi’n dymuno am un diwrnod, byddai pawb yn dweud beth oedd yn pydru ar eu tafod”. I ddilyn nesaf ydy tair munud o air llafar rhyfeddol o eglur, wedi’i ffurfio o ddatganiadau credadwy, digywilydd.

Wrth siarad am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r geiriau, eglurodd Connelly – “Ni gyd yn cael pethau ni eisiau dweud ond ddim. Cefais fy ysbrydoli gan gwefan sy’n postio quotes o pethau mae pobl go iawn eisiau dweud i bobl yn ei bywydau; pethau doniol a dwys. Dwi’n meddwl mae’n proper diddorol sut ni gyd gyda rhywbeth yn “bubbling” are ein tafodau.”



Mae’r gân yn dangos ochr adfywiol, fodern i gerddoriaeth Gymraeg, gan ryddhau’r gonestrwydd dienw bod diwylliant Cymraeg wedi ei grafu am amser. Mae’r peiriant drwm rhythmig yn cymysgu’n berffaith â’r llinell fas fachog i greu cefndir dymunol i’r lleisiau. Mae ail hanner y gân yn cyflwyno bachyn lleisiol cyfareddol gan Sywel Nyw sy’n clymu’r gan yn berffaith.

Mae 10/10 allan nawr ar Recordiau Lwcus T! 

Gwrandewch yma

RHANNWCH