*Gola’ on. Gwên ymlaen. Cnesu llais. Camra ‘mlaen. Gola’ coch.*
Yn fyw o’i stiwdio, ma’ Yorci’n cyflwyno ei fyd i’w bobl.
Ymysg ei unigrwydd ma’ dyn ifanc yn cael blasu cydnabyddiaeth am y tro cynta’.
Trwy ddarlledu ei fywyd, mae Yorci yn derbyn cysur, ond daw rwbath i amharu ar ei fyd… cynulleidfa.
Heddiw mae Yorci’n cael teimlo sut beth ydi sylw am y tro cynta’, ac yn lwcus iawn, da ni’n gal bod yn rhan o hynny… EXCITING!
Dilynwch Yorci, y Jack Of All One Man Bands, a’i sioe lawn comedi, cerddoriaeth a chwant go unigryw at Johnny Cash.
*Deud ta ta. Camra off. Duwch**Lights on. Smile on. Warm up voice. Camera on. Red light.*