Ymddangosodd y radical rhamantaidd John Thelwall yn Llyswen yn 1797 heb fawr o rybudd. Dyn y ddinas ydoedd, wedi ei eni a’i fagu yn Llundain, ac wedi treulio’r rhan helaethaf o’i flynyddoedd blaenorol ym mwrlwm peryglus ei chymdeithasau gwleidyddol. Ond roedd yn ddyn llenyddol hefyd, oedd eisoes yn addoli’r un ‘Natur’ briflythrennog â’i gyfeillion Wordsworth a Coleridge, ac yn teimlo’r un atyniad angerddol tuag at gyrion Celtaidd Prydain. Felly, wedi iddo brofi erledigaeth annioddefol o dan lygaid llywodraeth San Steffan – bron iddo gael ei ddienyddio ganddi yn 1794 – y cam amlwg nesaf oedd dianc i dir gwyllt y gorllewin, i ddarganfod annedd ‘obscure and romantic’ (chwedl Thelwall) yn Sir Frycheiniog. Nid oedd yn gynllun llwyddiannus. Erbyn 1800 roedd Thelwall wedi ffoi i Loegr drachefn, ar ôl cyfres o anffawdau gan gynnwys cymydog yn ymosod arno â chaib, ac yn teimlo dim byd ond dirmyg tuag at y gymuned yr oedd wedi ymuno â hi – ‘… the sordid ignorance of a neighbourhood whose boorish inhabitants hash up a jargon of corrupted Welch with still more corrupted English, utterly indigestible to unaccustomed organs.’
Erbyn heddiw, wrth gwrs, hen stori yw hon – Cymru gyfareddol y dychymyg mewnfudol yn toddi’n sydyn yng nglaw Cymru go iawn. Ceir rhestr hir o esiamplau tebyg yn On the Red Hill (2019), llyfr hudol ac amlhaenog Mike Parker: ymdrech ffaeledig Walter Savage Landor i droi’n sgweier yn Sir Fynwy yn 1807, dymchwel gobeithion yr hunanddibynnwr John Seymor yn Sir Benfro dros ganrif yn ddiweddarach, a suro breuddwydion Cymreig George Walton, un o’r pedwarawd ymblethedig o ddynion sy’n ffurfio canolbwynt llyfr Parker.
Fe ddaeth Walton a’i gymar Reg Mickisch i Gymru yn 1972, o dan ddylanwad hirhoedlog rhai o’r un llenorion â Thelwall: Wordsworth, Coleridge, eu hedmygwr iau Shelley, a’r etifeddion aneirif a gariodd eu fflam. Ar y dechrau roedd George yn aelod o’u tylwyth, yn sgwennu cerddi ffansïol ar gyfer cyfrol arfaethedig o’r enw The Secret Land, sy’n annerch ‘ancient hills’, ‘lost valleys’, a ‘noble tongue’ ei gartref newydd. Ond ni allasai’r gwirioni hwn oroesi rhwystredigaethau bywyd bob dydd, a chyn hir roedd George (fel nifer o’i ragflaenwyr) yn dechrau defnyddio ‘Welsh’ fel ‘a … term of derision’. Mae cyfrol Parker, ymysg nifer o bethau eraill, yn ymgais i ddadansoddi ac osgoi’r fath ddadrith chwerw, ac un o’r cwestiynau mae’n eu gofyn yw: ai ‘rhamantiaeth’ sydd ar fai am bopeth?
Darllenwch y cyfan, am ddim, ar wefan pedwargwynt.cymru