Menter a thafarn gymunedol yn Nefyn ydi’r Heliwr. Ail agorwyd y dafarn adnabyddus ar y Stryd Fawr yn Ngorffennaf 2021 wedi ymdrechion gan y gymuned leol i’w hadfer. Nod y fenter yw bod yn ganolbwynt i drigolion yr ardal a’u anghenion gan gynnig gweithgareddau at ddant pawb, a hynny er mwyn ymdrechu i uno’r gymdeithas a lleihau unigedd. Cyfle i bobl o bob oed a chefndir i ddod i gymdeithasu. Rydym yn cynnal gigiau trwy’r flwyddyn, caffi digidol, nosweithiau i ddysgwyr, clybiau crefftio a llawer iawn mwy.








