Bob blwyddyn, mae dwy filiwn o deithwyr yn mynd trwy Gaergybi, porthladd fferi prysuraf-ond-un y Deyrnas Unedig, sydd nid yn unig yn ddolen gyswllt holl bwysig rhwng Prydain ac Iwerddon ond hefyd yn rhan allweddol o briffordd fawr Ewropeaidd yr E22 sy’n ymestyn o Ddulyn i Fosgo a thu hwnt. Mae ’na rywbeth am yr arwydd mawr Cymraeg a Saesneg, Porthladd Caergybi / Port of Holyhead, sy’n cynhyrfu’r gwaed. Ar ôl croesi gwastadeddau Môn hyd lyfnder yr A55, a gweld yr enwau cyhyrog yn ymganghennu oddi arni – Llanfairpwllgwyngyll, Pentre Berw, Aberffraw, Gwalchmai, Rhosneigr – mae berw rhyngwladol y porthladd yn syndod, ac yn mynd â’ch gwynt. Pob lori o wlad wahanol. Babel o blatiau rhif. Sloganau amlieithog yn blith-draphlith (amrywiadau pan-Ewropeaidd ar ‘logistic’ a ‘transport’ fel arfer). Ciwiau cynyddol y ceir, a’r pick-ups wedi’u pacio. Ac ar wasgar ym mhob man, logo emrallt Irish Ferries ac un gwyn, syberach Stena. A’r eirfa neilltuol: customs, foot passengers, freight …
Flina’ i byth ar y wefr o ddod yma. Mae’n fwy nag antur y fordaith, ac yn fwy na’r awydd i gyrraedd Iwerddon (er mor gryf y gall hwnnw fod). Mae yma antur, addewid ac arswyd, fel ymhob porthladd. Ond gwefr dod i Gaergybi’n benodol ydi cael gweld o flaen eich llygaid Gymru’n ymgysylltu â’r byd. Er ei bod ar ein cyrion eithaf, mae’n ganolbwynt o fath inni hefyd. Dyma borth y Gymru Gymraeg i briffyrdd y byd. Ac o holl olygfeydd godidog Môn, does dim sy’n fwy cyffrous na sefyll ar forglawdd igam-ogam Caergybi a gwylio’r llongau’n ymadael neu’n agosáu. Mae’n hardd i ryfeddu, ac yn llawn posibiliadau.
Darllenwch yr ysgrif yn llawn, yn rhad ac am ddim, ar wefan pedwargwynt.cymru