Gwefan annibynnol ddwyieithog yw Klust sy’n tynnu sylw at gerddoriaeth newydd o Gymru. Bwriad y wefan yw hyrwyddo, cefnogi a dathlu artistiaid Cymraeg drwy gyfrwng adolygiadau a chyfweliadau arbennig. Yn cydweithio gyda dosbarthwyr, hyrwyddwyr a labeli ledled Cymru, mae Klust hefyd yn cynnig ei hun fel gwasanaeth PR.





