Cartref digidol diwylliant Cymru.

The Successors of the Mandingue

Mae Successors of the Mandingue yn dod â phrofiad cerddoriaeth ryngweithiol Affricanaidd i chi a chyfnewid diwylliant drwy offerynnau taro, cerddoriaeth, drymio, canu, adrodd straeon a dawns.

Wedi’n lleoli yng Nghaerdydd, Cymru, rydym yn adeiladu pontydd rhwng diwylliannau cerddorol; dod ag artistiaid, cymunedau, a’u syniadau ynghyd. Mae dylanwadau gwreiddiol y cwmni a’u harfer artistig wedi’u gwreiddio yn nhraddodiadau awthentig Gorllewin Affrica. Mae tri phrif linyn i’n gwaith: perfformiad artistig proffesiynol, prosiectau cydweithredu, ymgysylltu â’r gymuned a gweithdai.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o bethau o addysg ragarweiniol mewn cerddoriaeth a diwylliant Gorllewin Affrica gyda djembe a balafon, i brif perfformiadau mewn gŵyliau a theithiau perfformio.

Cynnwys