Sesiwn blasu gwin rhithiol gyda Cwîn y Gwîn, gan flasu rhosliw Cymreig o Tintern Parva, gwyn steil Ffrengig o Australia a gwin coch organig o ogledd Sbaen.
Mi fydd eich pecyn yn cynnwys mesur 125ml o bob gwin, tudalen blasu i sgwennu nodiadau blasu eich hunan a mynediad at fideo yn eich tywys trwy bob gwin.