Cartref digidol diwylliant Cymru.

MEWNrhwng

08/05/21 – 20/06/21

Najia Bagi
Jenny Cashmore
Rebecca F Hardy
Gemma Lowe

Arddangosfa amlddisgyblaeth yw MEWNrhwng sy’n pwyso ar y syniad o drosglwyddo, o gyflwr corfforol, trosiadol neu seicolegol. Mae’n gydweithrediad rhwng yr artistiaid Najia Bagi, Jenny Cashmore, Rebecca F Hardy, a Gemma Lowe. Yr adegau rhwng yma neu acw, nawr neu yn y man, nhw neu ni, gan fyfyrio ar amgylchoedd a chysylltiadau o le, hiraeth, galar a ffiniau

Mae CARN yn cyflwyno ein harddangosfa ddiweddaraf: MEWNrhwng

Arddangosfa amlddisgyblaeth yw MEWNrhwng sy’n pwyso ar y syniad o drosglwyddo, o gyflwr corfforol, trosiadol neu seicolegol. Mae’n gydweithrediad rhwng yr artistiaid Najia Bagi, Jenny Cashmore, Rebecca F Hardy, a Gemma Lowe. Yr adegau rhwng yma neu acw, nawr neu yn y man, nhw neu ni, gan fyfyrio ar amgylchoedd a chysylltiadau o le, hiraeth, galar a ffiniau.

Yr arddangosfa amlddisgybliedig hon fydd y gyntaf o raglen o arddangosfeydd cyffrous gan CARN ar gyfer 2021 wrth inni ddychwelyd o’r pandemig. Mi fydd yr arddangosfa hwn yn agor yn Oriel CARN o Ddydd Sadwrn yr 8fed o Fai, gyda lawnsiad dros sianel AM CARN o 7yh. Mi fydd y lansiad yn gymysgedd o ddarlleniadau a fidios gan y 4 artist.

Dywed cydlynydd a churadur CARN Menna Thomas am yr arddangosfa: “Mae’n hynod o braf i gael agor yr oriel unwaith eto a chael agor gyda sioe gyffrous, gyfoes a rhyngweithiol fel hon yn fraint yn arbennig ar ôl flwyddyn mor anodd i bawb”.

“Mae celf ac artistiaid wir gyda’r pwer i newid a chyfoethogi pethau, felly edrych ymlaen at gael croesawu’r grwp a’r 4 artist diddorol yma i CARN a chael gweld ymateb y cyhoedd i’r gwaith a’r pleser o gael bod mewn oriel unwaith eto.”

Mi fydd yr arddangosfa yn mynd ymlaen i arddangos yn oriel elysium Abertawe yn dilyn yr arddangosfa yma.
Ariennir yr arddangosfa hon gan Cyngor Celfyddydau Cymru

RHANNWCH