Cartref digidol diwylliant Cymru.

Lansiad ‘Am yn ail’

Llenyddiaeth

Roedd ‘Seremoni Cadeirio’r Bardd’ yn Eisteddfod Bro Colwyn, 1995 yn un gofiadwy wrth i’r bardd ifanc buddugol, Tudur Dylan Jones, gael ei gadeirio gan ei dad ac Archdderwydd, John Gwilym Jones. Chwarter canrif yn ddiweddarach, dyma lansio eu cyfrol hirddisgwyliedig o farddoniaeth ar y cyd, Am yn ail – cyfrol sy’n canolbwyntio ar deulu a pherthynas y ddau gyda’i gilydd, ar Gymru ac ar fro, ar iaith a chenedl.

Mae’r sesiwn hon yn cael ei chynnal trwy zoom am 19:30, 10 Mai fel rhan o ddathliadau wythnos #Tafyl21. Bydd recordiad ohoni ar gael i wylio ar alw yma o ddydd Sadwrn 15 Mai ymlaen.

Trefnir ar y cyd rhwng Barddas a Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru

RHANNWCH