The Space- Rhaglen Fentora Digidol
Rydym yn gweithio gyda The Space a Chyngor Celfyddydau Cymru ar raglen fentora digidol i helpu artistiaid a sefydliadau celfyddydol a chreadigol i ddatblygu sgiliau digidol, yn cynnwys creu cynnych digidol, cyhoeddi a datblygu chynulleidfa.
Bydd y rhaglen yn dechrau gyda sesiwn flasu ar Ebrill 13fed, a fydd yn cael ei ail-gynnal ar y 15fed. Bydd y gweminar yma yn cynnig sgiliau ymarferol gan bedwat arbennigwr digidol creadigol, yn trafid pynciau megis:
- Darganfod a datblygu cynulleidfa ddigidol
- Moneteiddio cynnwys digidol
- Asesu sut mae’r cyfnod clo wedi newid ymddygiad digidol cynulleidfaoedd
Yn ystod y gweminar bydd y mentoriaid yn ateb cwestiynau am unrhyw sialensau digidol rydych yn eu gwynebu, a gallwch gyflwyno rhain o flaen llaw neu holi yn ystod y sesiwn. Mae’r gweminar ar gael am ddimn i unrhyw un, hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu mynychu’r cynllun mentora digidol sydd i’w ddilyn. Er hyn, bydd y sesiwn yn rhyw fath o gyflwyniad i rhai o’r mentoriaid ac i’r pynciau digidol byddent yn eu cynnig er mwyn eich cefnogi drwy gydol y cynllun fentora.
Cofrestrwch i’r sesiwn flasu yma!

Digwyddiadau Diweddar ar AM
Dathlu y #PethauBychain gyda Celfyddydau Rhyngwladol Cymru
I ddathlu Diwrnod Dewi Sant, cyd-weithiodd AM gyda’r sianel Celfyddydau Rhyngwladol Cymru i gydlynu ‘takeover’ ar ein tudalen flaen i ddathlu’r Pethau Bychain yng nghelfyddydau Cymru dros wyth diwrnod. Yn rhan o’r ‘takeover’ roedd cynnwys o sawl sianel yn cynnwys Urdd Gobaith Cymru, Butetown Arts & Culture Association, Hijinx, Ty Cerdd a llawer mwy!
Cliciwch yma i fwynhau cynnwys y ‘takeover’ #PethauBychain

Dros benwythnos Mawrth 27-28, cyhaliodd AM PRINT – deuddydd o ddathlu a chefnogi cylchgronau Cymru ar y cyd â Chyngor Llyfrau Cymru. Roedd PRINT yn cynnwys cylchgronau megis Cylchgrawn Cara, New Welsh Review, O’r Pedwar Gwynt, Golwg, Wales Art Review, Planet Magazine a llawer mwy!
Cliciwch yma i weld cynnwys PRINT a chliciwch yma i danysgrifio i’r cylchgronau!

Sesiynau Out of Focus
Fel rhan o Gŵyl 2021, cynhaliwyd sesiynau gan Focus Wales mewn cydweithrediad gyda Breakout West, M Pour Montréal a NSMW ar AM yn cynnwys 18 artist o Ganada yn perfformio dros dair noson, a sgyrsiau panel gyda llu o bobl proffesiynol yng Nghanada.
Gallwch wylio’r sesiynau yn ôl ar sianel Focus Wales nawr!

Diwrnod y Llyfr
Ar y pedwerydd o Fawrth dathlodd AM Ddiwrnod y Llyfr gyda Cyngor Llyfrau Cymru ar ein tudalen flaen, yn tynnu sylw at gynnwys ein sianelau llenyddol. Roedd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau, darlleniadau, adolygiadau, argymhellion darllen a mwy gan sianelau megis Sôn am Lyfrau, Y Lolfa, Firefly Press, Parthian Books a Dysgu Cymraeg. Gallwch edrych yn ôl ar hol gynnwys y diwrnod yma!

Cyn Bo Hir
Seren Cardiff Poetry Festival: 15 – 18/4
Wrth i Seren Books ddathlu ei phen-blwydd yn 40 eleni, bydd Gŵyl Farddoniaeth flynyddol Seren Cardiff Poetry Festival yn symud arlein! Mae’r rhaglen gyffrous yn cynnwys Benjamin Zepheniah, Rhian Edwards, Cerys Matthews, Tishani Doshi, Joe Dunthorne, Pascale Petit, Patience Agbabi, Katrina Naomi and Kim Moore.
Bydd yr ŵyl yn cael ei ffrydio am ddim ar AM – gwyliwch yma!

Gŵyl Fach y Fro: 17/4
Bydd Gŵyl Fach y Fro, dathliad blynyddol o gelfyddydau a diwylliant Cymreig ym Mro Morgannwg yn cael ei chynnal yn ddigidol yn 2021! Bydd rhaglen o ddigwyddiadau yn cael ei ffrydio ar blatfform AM Ddydd Sadwrn, Ebrill 17eg, gan gynnig cyfuniad cyffrous o gerddoriaeth, trafodaethau a gweithgareddau i blant.
Ewch yma i weld y rhaglen llawn!

Tafwyl Digidol 2021: 15/5
Bydd yr ŵyl ddigidol yn cael ei ffrydio o Gastell Caerdydd ar AM 15.5! Mwy o wybodaeth i ddod yn fuan!

Sianelau Newydd
Galeri Caernarfon
Welsh Football
Cylchgronau’r Urdd
Y Casglwr
Y Cymro
Lucent Dreaming
Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru
Cell B
Mission Gallery
Y Teimlad
4 Tales To Save The World
Storiel
Colli’r Plot