Cylchgrawn Cymdeithas Bob Owen yw’r Casglwr. Mae’n ymwneud â chasglu pob math o bethau’n gysylltiedig â’r bywyd Cymraeg a Chymreig, yn enwedig llenyddiaeth a deunydd diwylliannol. Mae’n adnabyddus am ei hysbysebion llyfrau ail law. Fe’i cyhoeddir deirgwaith y flwyddyn, trwy’r post i aelodau, sy’n talu £10 eleni, gyda’r tâl aelodaeth yn codi i £18 yn 2022. Mae ganddo wefan, www.casglwr.org. Mae trefniadau ar y gweill i aelodau tramor dderbyn Y Casglwr dros y We. Mae hefyd ar gael mewn rhai siopau llyfrau. I danysgrifio, dylid cysylltu â’n Trysorydd, elunedevans67@gmail.com.

