Am groesi llinell yr hanner cant, fy ngwobr gysur
ar wyliau yn Fiena – catalog arddangosfa Fukushima.
Ond nid delweddau’r apocalyps: anadliadau’r wlad,
ei rhythmau beunyddiol, goddefol dros ddegawd
a ddaliwyd ar lens ffotograffydd bum mlynedd ynghynt
a chyn lansio’r enw diarffordd yn frand rhyngwladol.
Y capsiynau mor elfennol â phenillion haicw
– ‘Enfys ym Mehefin’, ‘Gwynt yr hydref’, ‘Dyfodiad y gaeaf’ –
a thudalennau’r darluniau wedi eu gwisgo mor finimalaidd
o gelfydd, mor lân yn nillad gorau’r fframiau gwyn.
Darllenwch y gerdd yn llawn, am ddim, ar wefan O’r Pedwar Gwynt.