Marchnadoedd | Cymuned | Celfyddydau
Mae Tŷ Pawb yn adnodd cymunedol diwylliannol sydd yn dod â’r celfyddydau a’r marchnadoedd ynghyd yn yr un lle. Mae’r cydfodoli hwn yn dathlu arwyddocâd marchnadoedd yn nhreftadaeth a hunaniaeth ddiwylliannol Wrecsam.
Mae’r datblygiad yn ofod newydd ar gyfer deialog o gylch pynciau sy’n cynnwys materion cymdeithasol a dinesig, yr amgylchedd, iechyd, hunaniaeth ddiwylliannol, cynaliadwyedd ac addysg.
Rydym yn cyflwyno rhaglen gyfoes o arddangosfeydd cynhwysol a chroesawgar, prosiectau sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol a pherfformiadau byw. Bydd y rhaglen yn pwysleisio sgiliau a chrefftau, gweithio gydag artistiaid sy’n datblygu a rhai sefydledig o bob cefndir.



