Mae Gwobrau New Welsh Writing Awards 2021: Gwobr Rheidol ar gyfer Rhyddiaith gyda Thema neu Leoliad Cymreig yn chwilio am geisiadau rhwng 5,000 a 30,000 gair, gan ysgrifennwyr o Brydain neu Iwerddon (neu rhai o lefydd eraill sydd wedi cael eu haddysg yng Nghymru dros gyfnod o 6 mis).
Beirniad y Gwobrau yw golygydd New Welsh Review, Gwen Davies. Y wobr gyntaf yw £1,000 fel blaendal yn erbyn cyhoeddi e-lyfr, yn ogystal â beirniadaeth gan yr asiant amlwg, Cathryn Summerhayes o Curtis Brown. Yr ail wobr yw arhosiad pedair noson yn Nant, encil Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, a’r trydedd wobr yw arhosiad dwy-noson yn Llyfrgell Breswyl Gladstone, Sir Fflint. Bydd detholiadau o brif enillwyr y ceisiadau yn cael eu cyhoeddi yn y New Welsh Reader, a bydd yr ysgrifennwyr yn derbyn ffi ar sail graddfeydd arferol y cylchgrawn. Bydd cyfraniad un ysgrifennwr/wraig rhwng 18 a 25 yn cael ei h/ystyried ar gyfer cyhoeddi, naill ai mewn fformat printiedig neu ar-lein.
Mae pob cais yn costi £12, gyda nawdd ar gael ar gael ar gyfer pobl ddifreintiedig; 16 Mawrth 2021 yw’r dyddiad cae. Cyrhaeddodd enillydd y Gwobrau 2019, Peter Goulding, y rhestr-fer ar gyfer Gwobr Boardman Tasker ar gyfer llenyddiaeth mynydda, gyda Slatehead. www.bit.ly/NewWelshAwards #NewWelshAwards
Dyddiad cau: 16/03/2021 https://bit.ly/NewWelshAwards