Y Rhestr Fer Gymraeg – Cynradd
Ble Mae Boc? Ar Goll yn y Chwedlau – Huw Aaron (Y Lolfa)
10 o luniau tudalen ddwbl. Mae pob taenlen yn dangos golygfa lawn dop, gyda’r nod o ddod o hyd i Boc, y ddraig fach goch, sy’n cuddio ym mhob llun. Cyfrol debyg i’r llyfrau Where’s Wally? gyda gogwydd cwbl Gymreig i bob llun.
Mae’r Cyfan i Ti – Luned Aaron (Atebol)
Cyfrol annwyl a theimladwy i’w darllen cyn mynd i gysgu wrth i riant gyflwyno rhai o ryfeddodau’r byd i’w plentyn. Dilynwn y dydd o’r wawr i’r machlud wrth i ni ddarllen am ryfeddodau’r byd sydd ar gael i’r plentyn.
Sw Sara Mai – Casia Wiliam (Y Lolfa)
Croeso i fyd Sara Mai, lle mae glanhau pw eliffant yn apelio lot mwy na mynd i’r ysgol, a lle mae’n llawer haws deall ymddygiad arth o Dde Affrica na merched eraill Blwyddyn 5.
Y Rhestr Fer Gymraeg – Uwchradd
#helynt – Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)
Mae colli’r bws i’r ysgol yn gallu newid dy fywyd di… Penderfyna Rachel fynd ar antur yn nhre’r Rhyl yn hytrach na mynd adref (wedi’r cyfan, mae’r beili wedi mynd â char ei thad), gan ganfod ei hun mewn clwb nos ar lan y môr.
Llechi – Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Mae Gwenno wedi cael ei lladd. Gwenno berffaith, glyfar, brydferth – hi oedd yn boblogaidd efo’r swots a’r bobol cŵl. Darganfuwyd ei chorff yn y chwarel, a bellach mae’r cops dros bob man ym Methesda, a phawb yn ceisio dod o hyd iddi.
Y Castell Siwgr – Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch)
Dwy ferch ar ddau gyfandir. Un lord ag awch am elw. Stori ddirdynnol am gaethferch, am forwyn, am long a chastell ac am ddioddefaint y tu hwnt i ddychymyg.
Y Rhestr Fer Saesneg
Where the Wilderness Lives – Jess Butterworth (Orion, 2020)
Mae Cara yn byw ar gwch camlas gyda’i mam, ei brodyr a’i chwiorydd. Mae tân yn dinistrio eu cwch un noson. Tra bod ei mam yn yr ysbyty mae Cara yn gofalu am ei theule. Mae’r plant yn gadael y tŷ lle maen nhw wedi bod yn byw dros dro gan deithio yn eu cwch cyn mentro ar droed ar draws mynyddoedd Cymru yn yr eira at eu tad.
The Short Knife – Elen Caldecott (Andersen Press, 2020)
Stori wedi’i gosod yn 454, pan oedd y Rhufeiniaid wedi gadael, a’r Brythoniaid a’r Sacsoniaid yn brwydro i feddiannu tiriogaethau gwahanol. Dilynwn ymdrechion Mai i oroesi mewn byd peryglus lle gall siarad ei mamiaith arwain at farwolaeth, a lle mae’n dod i ddrwgdybio hyd yn oed y bobl hynny mae hi’n eu caru fwyaf.
The Quilt gan Valériane Leblond (Y Lolfa, 2020)
Stori am ferch fach sy’n byw gyda’i rhieni ar fferm ar arfordir cefn gwlad Cymru ar droad yr ugeinfed ganrif. Mae’r teulu’n penderfynu ymfudo i America. Maen nhw’n gorfod gwerthu eu heiddo ond yn cadw cwilt coch a du wedi’i bwytho â llaw gan y fam.
Mae holl gyfrolau’r rhestr fer ar gael o’ch siop lyfrau leol.