Theatr Clwyd ywr theatr gynhyrchu fwyaf yng Nghymru ac sydd wedi ennill sawl gwobr.
Ers 1976 mae Theatr Clwyd wedi bod yn creu theatr eithriadol o’i chartref yn Sir y Fflint, Gogledd Cymru. Wedi’i sbarduno gan weledigaeth ddeinamig y Gyfarwyddwr Artistig arobryn Tamara Harvey a’r Cyfarwyddwr Gweithredol Liam Evans-Ford, mae Theatr Clwyd yn gwthio ffiniau theatr gan greu cynyrchiadau o’r radd flaenaf.
Mae Theatr Clwyd yn un o bedair theatr yn y DU i adeiladu setiau a phropiau, gwneud gwisgoedd a phaentio golygfeydd yn fewnol. Mae ein tîm trawiadol o artistiaid gweithdy, wardrob a golygfeydd, gwneuthurwyr propiau a thechnegwyr yn sicrhau’r sgiliau sy’n hanfodol i ddiwydiant theatr fywiog.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cymuned, y sector addysg a’r GIG, gan newid bywydau, creu cyfleoedd creadigol a datblygu gwneuthurwyr theatr y dyfodol.



