Trosolwg
Opera sydd wedi ei chreu gan gyfranogwyr WNO yw A song for the future, a ddaeth at ei gilydd i rannu eu straeon, caneuon a cherddoriaeth yn ystod y cyfnod clo.
Opera am anghydraddoldeb ydyw, a sut mae’n teimlo i fod ar y tu allan. Mae’n alwad i weithredu dros y rheidrwydd i ailgasglu, ac ail greu’r cysylltiadau rhyngom er mwyn dod at ein gilydd.
Mewn byd sydd wedi dod i stop, mae Zana, ffoadur sydd newydd gyrraedd y DU, yn ceisio gwneud synnwyr o’r hyn y mae hi’n ei wynebu, yn ogystal â’r byd rydym wedi’i greu. Adroddir stori Zana drwy gân, cerddoriaeth a geiriau, wrth i ni archwilio’r gobeithion, ofnau a breuddwydion wrth geisio dyfodol newydd.
Cafodd yr opera newydd hon ei chreu ar y cyd gan y Cyfansoddwr Boff Whalley, yr Awdur Sarah Woods, a chwe awdur a cherddorion (sydd hefyd yn perfformio) sydd wedi ceisio lloches yn y DU.
Mae A Song for the Future yn nodi ail bartneriaeth Opera Cenedlaethol Cymru gydag Oasis Cardiff.
Synopsis
Mewn byd sydd wedi dod i stop, mae Zana, ffoadur sydd newydd gyrraedd y DU, yn ceisio gwneud synnwyr o’r hyn y mae hi’n ei wynebu – yn ogystal â’r byd rydym wedi’i greu.
O ffenestr ei ystafell wely yn y tŷ mae hi’n ei rannu yng Nghaerdydd, mae’n gweld drudwen yn adeiladu nyth mewn coeden gerllaw. Wrth i’r dyddiau droi’n wythnosau, mae bywydau’r adar yn gwneud mwy a mwy o synnwyr iddi – llawer mwy na’r bywyd mae hi wedi ei golli dros dro. Ond wrth i anghyfiawnderau’r byd frathu: hiliaeth, tlodi, dosbarthu ac anghyfiawnder, gwyddai fod rhaid iddi ddychwelyd ac ail-ymuno â phobl o’r un anian, a brwydro am ddyfodol gwell.