Blodeuwedd
gan Saunders Lewis
19:00
3.3.21
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â CADW a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Mae Blodeuwedd yn anniddig, a Llew yn anfodlon. Er iddo drechu tynged ei fam, a chael gwraig wedi’i chreu o flodau, mae’n dal i ysu am etifedd. Ac mae Blodeuwedd yn teimlo fel carcharor yn ei chartref ei hun. Pan syrthia Gronw Pebr mewn cariad â hi, daw cyfle o’r diwedd i ddianc. Ond rhaid yn gyntaf ladd Llew.
Dyma gyfle i weld y cynhyrchiad awyr agored hwn wedi’i berfformio yn Nhomen y Mur – cartref chwedlonol arwres y ddrama.
CC – Capsiynau caeedig ar gael yn Gymraeg a Saesneg, gan ddefnyddio cyfieithiad nodedig y diweddar Siôn Eirian, Blodeuwedd, The Woman of Flowers.