Tameidiau o atgofion, brith gof o hanner straeon, a hanesion yn cael eu rhannu gan breswyliaid cartref gofal The Daffodils ym Merthyr Tudful sy’n cael eu plethu at ei gilydd mewn drama newydd brydferth ar ffurf drama radio: Tydfil Tales.
Cafodd y straeon eu rhannu mewn sgyrsiau rhwng y preswyliaid a myfyrwyr Celfyddydau Perfformio UAL yn Y Coleg Merthyr Tudful. Cafodd y straeon eu haddasu ac maent yn cael eu perfformio gan y bobol ifanc.
Fe wnaed y ddrama yn y gymuned, gan y gymuned ac er mwyn y gymuned. Mae Tydfil Tales yn rhoi llais i ddwy genhedlaeth o ddinasyddion Merthyr Tudful, gan eu huno drwy adrodd straeon a chreadigrwydd. Mae dweud stori yn weithred hael, ac yn Tydfil Tales, mae haelioni y preswyliaid yn ein cario nôl i’r gorffennol.
Yn deimladwy a doniol, weithiau’n drist ond bob amser yn gynnes ac yn agos atoch, mae gwrando ar Tydfil Tales yn brofiad atgofus.
Nodwch fod Tydfil Tales yn cynnwys iaith gref.
Ariannwyd y prosiect gan Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru.
Perfformir yn Saesneg.