Cartref digidol diwylliant Cymru.

Portread o Mei Gwynedd

Cerddoriaeth

Y gitarydd sydd wedi rocio gyda Liam Gallagher, Jarman, a Mistar Urdd!

Mae Mei Gwynedd yn gerddor hynod adnabyddus, mae ganddo label a stiwdio ei hun, ac mae wedi rocio gyda Mr Urdd ac Oasis – ond ddim ar yr un pryd!

Dechreuodd ei yrfa roc-a-rôl nôl yn yr 80au pan oedd yn gitarydd y Beganifs, y band a esblygodd fewn i Big Leaves… ac yn ddiweddarach mi ffurfiodd Sibrydion.

Ers dros 20 mlynedd bellach mae’r gŵr o Waunfawr ger Caernarfon wedi byw yng Nghaerdydd, ac ers degawd mae wedi bod yn cynhyrchu cerddoriaeth yn ei stiwdio ac yn cyhoeddi senglau ac ati ar ei label, JigCal.

Yn 2019 mi recordiodd fersiwn fywiog o’r gân ‘Hei Mistar Urdd’ gan ddenu cryn ganmoliaeth, ac ers blynyddoedd lawer mae wedi bod yn arwain cerddorfa  ukelele.

Ar ben y cyfan, Mei Gwynedd sydd yn cynhyrchu’r caneuon sy’n cyrraedd ffeinal Cân i Gymru, ac mae hefyd wedi bod ynghlwm ag ymdrechion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r Gymraeg.

Mae hefyd yn chwarae’r gitâr ym mandiau Geraint Jarman ac Elin Fflur.

DARLLEN MWY

RHANNWCH